Eiliadau Cerddor: Nick Russell

Mae ein cerddorion wedi bod yn siarad am rai o'r eiliadau pwysicaf maen nhw wedi'u profi wrth rannu Llawenydd Trwy Gerddoriaeth Fyw gyda Cherddoriaeth mewn Ysbytai a Gofal.

Mae Nick Russell wedi bod yn gweithio gyda ni yng Nghymru ers 2014.

“Roeddwn i’n chwarae cyngerdd yn Sunrise of Cardiff; roedd fy mherfformiad yn rhan o ddigwyddiad o’r enw ‘World Rocks Against Dementia’. Roedd awyrgylch da y diwrnod hwnnw gyda llawer o ganu a rhywfaint o ddawnsio ac roedd gan ddau breswylydd eu penblwyddi. Yr eiliad orau oedd yng nghanol y cyngerdd pan oeddwn i’n chwarae ychydig o ganeuon mwy tyner, ac yn eu plith roedd ‘In My Life’ gan The Beatles. Roedd gan un preswylydd ei deulu gydag ef ac yn ystod y gân, wrth i mi ganu, sylwais eu bod nhw i gyd yn symud ychydig yn agosach ac yn dal dwylo. Sylweddolais ar y pwynt hwnnw fod gan y cyngherddau hyn gyfraniad unigryw i’w wneud i ansawdd bywydau’r preswylwyr a’u teuluoedd hefyd.”