Ddydd Gwener 9 Awst, cynhaliodd ein cefnogwyr Lena a Ceri noson gerddorol yng Nghanolfan Palmer yng Nghas-gwent i godi arian ar gyfer Cerddoriaeth mewn Ysbytai a Gofal.
Mae Lena a Ceri ill dau wedi gweithio yn y GIG ac wedi gweld yr effaith bwerus sydd gan gerddoriaeth mewn lleoliadau gofal iechyd.
Fe godon nhw eu lleisiau a chawsant dros £230 o’r digwyddiad! Diolch yn fawr iawn iddyn nhw ac i bawb a’u cefnogodd gan gynnwys Canolfan Gymunedol Palmer a’r rhai a fynychodd ac a roddodd ar y noson.
“Drwy ganu, rydym ni’n dau wedi cael y fraint o weld yn uniongyrchol wyrth cerddoriaeth i gleifion fel y rhai â dementia. Mae wynebau’n goleuo ag emosiwn y funud maen nhw’n clywed cân gyfarwydd. Mae eu gweld nhw’n ymuno ac yn curo gyda’n caneuon wedi bod yn un o’r teimladau mwyaf gwerth chweil erioed.”
Diolch i chi am fod yn #SupportAct i ni Lena a Ceri!


