Mae Alexander yn ddwy flwydd oed ac yn byw gartref gyda'i rieni a'i ddau frawd hŷn. Maen nhw'n mynd i Kites Corner yng Nghaerloyw am ofal seibiant a chefnogaeth yn ystod y dydd. Ymunon ni â nhw yno'n ddiweddar ar gyfer diwrnod cerddoriaeth i'r teulu.
Roedd Alexander wrth ei fodd yn gwneud y symudiadau ynghyd â'r hwiangerddi felly dwi'n gwybod ei fod wedi mwynhau'n fawr – profodd ei wên hynny hefyd.
“Kites Corner yw ein canolfan seibiant amlsynhwyraidd a’n gerddi pwrpasol yma yn Ymddiriedolaeth James Hopkins,” meddai Jo Bowden, Arweinydd Chwarae. “Rydym yn darparu cefnogaeth i deuluoedd â phlant sydd â chyflwr sy’n cyfyngu ar fywyd neu’n peryglu bywyd.”
“Cawson ni sioc enfawr gyda diagnosis Alexander,” meddai Louise, mam Alexander. “Doedd dim byd allan o’r cyffredin yn ystod beichiogrwydd, ond o’r eiliad y daliais i ef roeddwn i’n gwybod. Roedd yn broses hir i argyhoeddi meddygon teulu ac ymwelwyr iechyd, ond yn y pen draw cafodd Alexander ddiagnosis o syndrom Joubert. Mae’n hynod brin, a dyna efallai pam ei bod hi mor anodd i weithwyr proffesiynol adnabod ei symptomau neu eu rhoi at ei gilydd.
Mae'n gwneud cynnydd da ac yn gwneud y gorau y gall. O'r babi bach llipa hwnnw, mae gennym ni nawr fachgen cryfach sy'n dal ei ben i fyny a hyd yn oed yn ceisio eistedd yn annibynnol. Mae angen cefnogaeth lawn arno gyda bwydo, mae'n ddi-eiriau ac mae ganddo nam ar ei olwg, ond nid yw hynny'n ei atal rhag cyfleu ei ddymuniadau a'i anghenion.”
Jo: “Mae gan lawer o’n plant anghenion synhwyraidd ac mae cerddoriaeth yn ffordd wych o gyfathrebu â nhw. Mae gennym amser canu bob dydd ac i rai o’r plant dyma eu cyflwyniad cyntaf i ganu ac arwyddo. Mae’n hyfryd eu gwylio wrth iddyn nhw ddechrau ymuno yn y symudiadau i’r caneuon.
Roedd hi’n wych cael y cerddor Annie o Music in Hospitals & Care i rannu awr o ganeuon bywiog i deuluoedd ymuno â nhw. Yna chwaraeodd hi gerddoriaeth fwy tawel a hamddenol, a helpodd y plant i ymlacio’n fawr. Mae’n hyfryd cael cerddoriaeth fyw yn Kites Corner i ddod â’r teuluoedd at ei gilydd mewn cynulliad cymdeithasol hamddenol sy’n caniatáu iddyn nhw gwrdd â phobl na fydden nhw fel arall yn eu gweld.”
Louise: “Mae Alexander yn ymateb yn dda iawn i gerddoriaeth ac rydyn ni wrth ein bodd yn canu gyda’n gilydd fel teulu. Des i i’r diwrnod cerddoriaeth gyda fy nhri bachgen a chawson ni amser gwych. Roedd Alexander wrth ei fodd yn gwneud y symudiadau ynghyd â’r hwiangerddi felly dw i’n gwybod ei fod wedi mwynhau’n fawr – profodd ei wên hynny hefyd.”