Cartrefi gofal a chanolfannau dydd

Mae ein cerddorion proffesiynol yn rhannu cerddoriaeth fyw gyda phobl hŷn sy'n byw mewn cartrefi gofal ac yn ymweld â chanolfannau dydd.

Rydyn ni'n gwybod bod llawer o dimau gofal yn chwilio am ffyrdd o fynd i'r afael ag unigrwydd. Mae ein profiadau cerddoriaeth fyw sydd wedi'u creu'n arbennig yn helpu pobl i wneud cysylltiadau . Pan fydd pobl yn rhannu cerddoriaeth, gallant deimlo'n agosach at ei gilydd . Gall cerddoriaeth fyw drawsnewid perthnasoedd rhwng preswylwyr cartrefi gofal a'u teuluoedd , yn ogystal â'u timau iechyd a gofal .

Oeddech chi'n gwybod?

  • Amcangyfrifir bod 410,000 o bobl yn byw mewn cartrefi gofal yn y DU.[ 1 ]

  • Mewn cartrefi gofal, mae iselder yn effeithio ar hyd at 42% o bobl hŷn .[ 2 ]

  • Mae diflastod yn broblem sylweddol i unigolion mewn cartrefi gofal, gan arwain yn aml at deimladau o unigrwydd a diymadferthwch .[ 3 ]

  • Mewn cartrefi gofal, mae preswylwyr a staff sy'n cymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol fel cerddoriaeth yn gweld llawer o fanteision. Mae staff yn cymryd llai o ddiwrnodau i ffwrdd o'r gwaith , yn aros yn eu swyddi'n hirach ac yn meithrin perthnasoedd gwell gyda'i gilydd .[ 4 ]

Perfformiwr yn canu ac yn dal dwylo gydag aelod o'r gynulleidfa mewn cadair olwyn yn ystod digwyddiad byw Cerddoriaeth mewn Ysbytai a Gofal.
Perfformiwr yn canu gyda meicroffon wrth i oedolion hŷn chwerthin a mwynhau sesiwn Cerddoriaeth mewn Ysbytai a Gofal dros de a bisgedi.

Yn dilyn profiadau cerddoriaeth fyw Cerddoriaeth mewn Ysbytai a Gofal mewn cartrefi gofal yng Nghymru a Lloegr, nododd mwy na thri o bob pump o weithwyr gofal iechyd proffesiynol ddealltwriaeth well o'r bobl yn eu gofal :

  • Roedd dros dri chwarter (76%) o drigolion yn teimlo'n llai ynysig .

  • Roedd dros dri chwarter (78%) o drigolion yn teimlo llai o straen a phryder .

  • Roedd mwy na dwy ran o dair (67%) o drigolion yn gwneud mwy o weithgarwch corfforol .

Dysgwch am ein gwaith mewn ysbytai a hosbisau a gofal lliniarol .

Cerddor yn chwarae gitâr ac yn canu i breswylydd cartref gofal yn ystod sesiwn Cerddoriaeth mewn Ysbytai a Gofal.