Sesiynau cerddoriaeth Nadoligaidd

Rhagfyr yw ein hamser prysuraf o'r flwyddyn fel arfer.

Gan na allwn rannu cerddoriaeth fyw yn bersonol eleni, rydym wedi creu rhywbeth arbennig ar gyfer tymor yr ŵyl. Bydd cerddorion o bob cwr o'r DU yn dod ynghyd i ail-ddychmygu rhai o ffefrynnau'r ŵyl.

Ymunwch â ni ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol am 11am ar Ddydd Nadolig ac 4pm ar Nos Galan .

Fe glywch chi gydweithrediadau gan rai o’n cerddorion anhygoel gan gynnwys The Retrosettes, Dan Walsh, Martin Bickerton, Vesta Trio, Filkins Drift, Sian Francis, Claire Hastings, Top Brass Trio, Jason Sweeney, Emilie Parry-Williams, Paul Walker a Karen Pfeiffer, Eleri Darkins, Christine Adams a Lissie Bayford, Margaret Ferguson, Pegbox, Dawn Allen, Jenny Dyson, Sharon Durant ac Emma Cayeux.

Mae gennym hefyd bedwar profiad cerddoriaeth a grëwyd yn arbennig gan ein cerddorion Holly Marland, Cherrington a Ward, Alastair Collingwood a Caroline Clipsham, a fydd ar gael ar ein sianel YouTube i bawb elwa ohonynt tan 4 Ionawr 2021.

Rydym yn cymryd seibiant dros gyfnod yr ŵyl a byddwn ar gau o 5pm ar 23 Rhagfyr 2020, gan ailagor ar 4 Ionawr 2021.