Byddwn yn dod â cherddoriaeth fyw reolaidd i bobl sy'n byw gyda dementia yn Nhorfaen a'r ardaloedd cyfagos diolch i gyllid gan raglen 'Gwobrau i Bawb' Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.
Dros y ddwy flynedd nesaf, bydd cerddoriaeth fyw yn digwydd ddwywaith y mis yng nghanolfan ddydd Age Connects yn Nhorfaen. Nod y gerddoriaeth fyw sydd wedi'i theilwra'n arbennig, ar gyfer y rhai 50 oed a throsodd sy'n byw gyda dementia, yw gwella lles emosiynol a chynnig profiadau codi calon sy'n ennyn diddordeb cyfranogwyr trwy gof a symudiad.
Rhannodd Emma Wooten, Rheolwr Datblygu yn Age Connects Torfaen, ei meddyliau ar bŵer trawsnewidiol cerddoriaeth fyw:
“Y syniad yw archwilio a yw cerddoriaeth fyw yn atseinio gyda defnyddwyr ein gwasanaeth. Mae rhai ohonyn nhw’n ddi-eiriau, ond cyn gynted ag y bydd y gerddoriaeth yn dechrau, mae eu hwynebau’n goleuo, maen nhw’n clapio, yn tapio gyda’r gerddoriaeth, neu hyd yn oed yn dechrau canu. Mae’n dod ag atgofion yn ôl – efallai mai cân eu priodas ydyw neu alaw o ddathliad teuluol. Mae cerddoriaeth yn ennyn emosiynau cryf a gall sbarduno atgofion llawen neu ystyrlon. Mae hefyd yn ymlaciol ac yn rhoi seibiant o weithgareddau arferol fel cwisiau neu ymarfer corff. Dw i’n meddwl bod cerddoriaeth yn ychwanegu dimensiwn synhwyraidd sy’n helpu pobl i gysylltu ar lefel ddyfnach.”
Nid yn unig y gall cerddoriaeth fyw ddatgloi atgofion i bobl sy'n byw gyda dementia, mae'n codi eu hwyliau ac yn helpu pobl i gysylltu mewn ffyrdd na all geiriau weithiau. Gall hefyd helpu i leddfu teimladau o unigrwydd neu bryder a rhoi cyfle i ofalwyr rannu eiliadau llawen gyda'u hanwyliaid. Ar ôl cymryd rhan yn ein sesiynau cerddoriaeth fyw, nododd 76% o breswylwyr eu bod yn teimlo'n llai ynysig a theimlai 78% o breswylwyr yn llai dan straen a phryder.
Mae Emma’n esbonio sut mae cerddoriaeth fyw o fudd i ddefnyddwyr gwasanaeth o’i gymharu â cherddoriaeth wedi’i recordio:
“Gyda rhywbeth fel Alexa neu YouTube yn chwarae yn y cefndir, mae tynnu sylw’n gyffredin, ond gyda pherfformiad byw maen nhw’n cael eu swyno. Mae hynny’n brin i rywun â dementia, y mae ei gyfnod canolbwyntio’n aml yn fyr. Boed yn ddawnsio’n araf neu’n chwarae’r conga, yr allwedd yw bod y gerddoriaeth yn eu cael i symud ac i ymgysylltu. Hyd yn oed os nad ydyn nhw’n cofio’r sesiwn yn iawn yn ddiweddarach, maen nhw’n gadael yn gwenu.”
Mae Katrina Rigby, ein Rheolwr Cerddoriaeth Fyw ar gyfer Cymru a Gogledd Iwerddon, yn esbonio pwysigrwydd partneriaethau fel yr un gydag Age Connects Torfaen:
“Mae ein gwaith gyda phartneriaid iechyd a gofal yn chwarae rhan hanfodol wrth ein helpu i gyrraedd mwy o bobl na fyddent fel arall yn cael profi llawenydd cerddoriaeth fyw. Mae ein cerddorion proffesiynol yn ymweld â chartrefi gofal, canolfannau dydd a wardiau ysbytai, gan greu profiadau cerddorol sy'n cyffwrdd â bywydau pobl sy'n byw gyda dementia a'u teuluoedd.”
Mae pobl sy'n byw gyda dementia sy'n cymryd rhan mewn profiadau cerddoriaeth fyw yn aml yn dod yn fwy lleisiol ac yn ymgysylltu'n gymdeithasol. Mae cerddoriaeth fyw yn cynnig llawer mwy na dim ond adloniant; mae'n creu cyfleoedd ar gyfer rhyngweithio ystyrlon, gwella iechyd emosiynol, ac ansawdd bywyd gwell.


