Llun o Rebecca Evans CBE

Mae Rebecca Evans yn artist arobryn Grammy ac yn soprano operatig o Dde Cymru a astudiodd yn Ysgol Gerdd a Drama’r Guildhall. Mae hi wedi perfformio prif rannau i gwmnïau opera ledled Ewrop ac America, gan gynnwys Opera Cenedlaethol Cymru a’r Royal Opera House. Mae hi’n ymddangos yn rheolaidd mewn cyngherddau mewn gwyliau fel y BBC Proms ac yn perfformio gyda cherddorfeydd gan gynnwys Cerddorfa Symffoni Llundain, Hallé ac Accademia Santa Cecilia.

Anactif