Mae ein cerddorion yn siarad am rai o'r eiliadau pwysicaf maen nhw wedi'u profi wrth rannu Llawenydd Trwy Gerddoriaeth Fyw gyda Cherddoriaeth mewn Ysbytai a Gofal.
Mae'r canwr a'r delynor Sam Hickman wedi bod yn gweithio gyda ni yng Nghymru ers 2015.
“Un o fy hoff fomentiau oedd pan oeddwn ar daith yn Nyfnaint a Chernyw yn haf 2018. Roeddwn i wedi treulio pedwar diwrnod yn gyrru ym mhobman yn chwarae mewn pob math o leoliadau ac i bob math o gynulleidfaoedd. Roedd un o fy nghartrefi gofal olaf ar y daith yn gyngerdd mor hyfryd, dechreuais i ac aeth pawb ati i fwynhau’r gerddoriaeth ar unwaith. Roedd dawnsio a chanu, cafodd pawb hwyl fawr ac roedd yr holl yrru o gwmpas yn werth chweil!”


