Mae ein cerddorion wedi bod yn siarad am rai o'r eiliadau pwysicaf maen nhw wedi'u profi wrth rannu Llawenydd Trwy Gerddoriaeth Fyw gyda Cherddoriaeth mewn Ysbytai a Gofal.
Mae Jenny Dyson wedi bod yn gweithio gyda ni yng Ngogledd Lloegr ers 2013.
“Bob tro rwy'n camu i wardiau'r Uned Gofal Dwys, mae gen i'r fraint o gwrdd â'r staff, y cleifion a'r teuluoedd anhygoel. Mae pob ymweliad yn rhoi eiliad arbennig i mi, felly meddyliais y byddwn i'n rhannu un o'm hymweliad diwethaf ag Ysbyty Brenhinol Manceinion cyn y cyfnod clo. Roeddwn i'n chwarae cerddoriaeth ymlaciol a thawel ar yr Uned Dibyniaeth Uchel gyda rhai cleifion ac aelodau o'r teulu yn hwmian o dan eu gwynt, ac eithrio un aelod o'r teulu a oedd yn canu'n eithaf clir. Wrth i mi symud yn agosach, gofynnais a oedd unrhyw beth penodol y gallwn i ei chwarae iddi hi a'i gŵr a oedd yn glaf. Nid oedd ei gŵr yn gallu siarad ond fe ddywedodd y gair 'Elvis' ac felly dechreuais chwarae 'Can't Help Falling in Love'. Canodd ei wraig yn hyfryd ac ymunodd ef i ganu'r geiriau. Wrth iddynt barhau i ganu gyda'i gilydd, fe wnaethant ddal dwylo, edrych ar ei gilydd a dechreuodd y ddau fynd ychydig yn ddagreuol. Diolchasant i mi mor garedig ac wrth i mi gerdded i ffwrdd sylweddolais fy mod wedi rhannu eiliad arbennig iawn gyda nhw; eu hemosiynau wedi'u rhyddhau a chof wedi'i greu, gan gysylltu â'i gilydd trwy gerddoriaeth.”


