Mae Henrietta yn gobeithio rhedeg marathon rhithwir mewn amser record

Bydd Henrietta Stock yn rhedeg ras rithwir 40fed Marathon Llundain o amgylch ei hardal leol yn Guildford a Woking wrth chwarae'r recorder i godi arian ar gyfer Cerddoriaeth mewn Ysbytai a Gofal.

Yn dilyn y cyhoeddiad na allai Marathon Llundain ddigwydd yn ei fformat arferol, gwahoddwyd rhedwyr i gwblhau 'Y 40fed Ras – Eich Ffordd Chi'. Mae gan gyfranogwyr 23 awr, 59 munud a 59 eiliad i redeg, loncian neu gerdded y pellter o 26.2 milltir ar gwrs o'u dewis ar unrhyw adeg o'r dydd.

Mae gennym bedwar rhedwr anhygoel yn cymryd rhan yn y ras rithwir ddydd Sul 4 Hydref.

Dywedodd y Prif Weithredwr Barbara Osborne: “Rydym mor falch y bydd cyfle gan ein cyfranogwyr Marathon Llundain i redeg eleni o hyd ac rydym yn hynod ddiolchgar am yr arian maen nhw wedi’i godi fel y gall mwy o bobl brofi pŵer iachau cerddoriaeth fyw.”

Mae Henrietta wedi dewis llwybr a fydd yn mynd â hi heibio Ysgol Gynradd Barnsbury, lle dysgodd chwarae'r recorder gyntaf yn yr ysgol. Bydd ffrindiau o Fand Heddlu Surrey hefyd yn ymuno â hi am ran o'r llwybr.

Dywedodd Henrietta: “Mae wedi bod yn anodd aros yn frwdfrydig dros yr haf ar ôl i’r marathon gwreiddiol gael ei ohirio, ond anfonodd un o fy nghydweithwyr neges ataf i ddweud ei fod wedi profi gwaith Cerddoriaeth mewn Ysbytai a Gofal yn uniongyrchol pan aned ei fabi yn gynamserol ychydig flynyddoedd yn ôl a daethant i wneud sesiwn Awr Hwiangerdd ar ward y babanod cynamserol. Fe helpodd hyn fi’n fawr i fynd allan i redeg eto. Yn Llundain, efallai na fyddai chwarae’r recorder wrth redeg wedi edrych mor rhyfedd ochr yn ochr â miloedd o redwyr yn gwisgo pob math o wisgoedd. O gwmpas Guildford a Woking, dydw i ddim yn siŵr y byddaf yn cymysgu i mewn cystal!”

Bydd 45,000 o redwyr yn cymryd rhan ym marathon rhithwir eleni, sy'n un o nifer o ddigwyddiadau sydd wedi'u haddasu eleni i ddilyn canllawiau cadw pellter cymdeithasol.

Dywedodd Hugh Brasher, Cyfarwyddwr Digwyddiadau Marathon Llundain Virgin Money: “Mae’r ymateb wedi bod yn anhygoel a bydd ysbryd Marathon Llundain yn disgleirio’n llachar ledled y byd ddydd Sul 4 Hydref. Llundain yw’r marathon mwyaf poblogaidd ar y blaned gyda mwy na 457,000 o bobl yn ymgeisio yn y bleidlais ar gyfer Marathon Llundain Virgin Money 2020. Mae Marathon Llundain rhithwir cyntaf hwn, Y 40fed Ras, wedi cynnig cyfle unigryw i redwyr ledled y byd ennill y fedal gorffen a’r crys-T nodedig honno ac rydym yn credu mai dyma’r marathon rhithwir mwyaf a gynhaliwyd erioed.”

Noddi Henrietta drwy fynd i uk.virginmoneygiving.com/henrietta .