7th September 2017
2016/17 oedd y flwyddyn orau eto yng Nghymru o ran nifer y cyngherddau a gynhaliwyd gennym a swm yr arian a godwyd. Diolch yn bennaf i gyllid gan y Gronfa Loteri Fawr, cynhyrchodd swyddfa Cymru dros £130,000 ar gyfer yr elusen llynedd, a chynnal 550 o gyngherddau ledled Cymru. Yn ogystal â’r Gronfa Loteri Fawr, rhaid diolch i Ymddiredolaeth People’s Postcode a Sefydliad Scottish Power, a wnaeth gyfraniadau ariannol sylweddol. Ac i goroni’r cyfan, enillom Wobr Sefydliad Bryn Terfel 2016 am hyrwyddo’r celfyddydau ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Please give today to help improve the health and wellbeing of children and adults through the healing power of live music.